Y Pwyllgor Menter a Busnes |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 19 Chwefror 2014 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.00 - 12.45 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
William Graham (Cadeirydd) Mick Antoniw Keith Davies Dafydd Elis-Thomas Rhun ap Iorwerth Julie James Eluned Parrott Joyce Watson |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Minister for Economy, Science and Transport Rob Hunter, Llywodraeth Cymru Yr Athro Gareth Morgan, Cadeirydd y Panel Sector Gwyddorau Bywyd James Price, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Llywodraeth Cymru David Williams, Cadeirydd y Panel Sector Ynni a’r Amgylchedd |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Siân Phipps (Clerc) Claire Morris (Ail Clerc) Olga Lewis (Dirprwy Glerc) |
|||
|
|
||||
1 Trafod y Flaenraglen Waith
1.1 Ystyriodd y Pwyllgor yr eitem hon mewn sesiwn breifat.
1.2 Penderfynodd y Pwyllgor i gynnal dau ymchwiliad yn ystod tymor yr haf, sef ymchwiliad dilynol i sgiliau ym maes Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg; ac ymchwiliad i Dwristiaeth.
1.3 Penderfynodd y Pwyllgor hefyd i gynnal dau ymchwiliad dilynol diwrnod o hyd: i Borthladdoedd ac i Interreg.
1.4 Cytunodd y Pwyllgor i ystyried cynnal ymchwiliad i’r sectorau economaidd a ddylai gael blaenoriaeth ar gyfer tymor yr hydref.
2 Craffu ar y Gymraeg
2.1 Ystyriodd y Pwyllgor yr eitem hon mewn sesiwn breifat.
2.2 Cytunodd y Pwyllgor y byddai’r Cadeirydd yn ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i nodi sut y byddai’n cynnwys y gwaith o graffu ar y Gymraeg yn ei flaenraglen waith.
3 Gwobrau Ysbrydoli Cymru
3.1 Ystyriodd y Pwyllgor yr eitem hon mewn sesiwn breifat.
3.2 Penderfynodd yr Aelodau nad oeddent am gymryd rhan fel Pwyllgor yn y Gwobrau Ysbrydoli Cymru.
4 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
4.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan David Rees AC a Byron Davies AC. Nid oedd dirprwyon ar eu rhan.
5 Ymchwiliad i ddull Llywodraeth Cymru o hyrwyddo masnach a mewnfuddsoddi - sesiwn dystiolaeth 10 (09.45-10.45)
5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Athro Gareth Morgan, Cadeirydd Panel Sector y Gwyddorau Bywyd a David Williams, Cadeirydd Panel y Sector Ynni ac Amgylchedd.
6 Adroddiad cynnydd chwe mis a chyllideb alldro 2012-13 (11.00-12.30)
6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Llywodraeth Cymru. Cynorthwywyd y Gweinidog gan James Price, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Adran yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Llywodraeth Cymru a Rob Hunter, Cyfarwyddwr, Adran Cyllid a Pherfformiad, Llywodraeth Cymru
6.2 Cytunodd y Gweinidog i:
- ddarparu manylion ynghylch y trosglwyddiadau a wnaed yn y gyllideb trafnidiaeth 2012-2013, ac ar ba sail yr oedd y buddsoddiadau trafnidiaeth ychwanegol wedi’u blaenoriaethu;
- ddarparu crynodeb o’r ffigurau dadansoddi costau fesul swydd a gydgasglwyd, i ddangos pa fath o gymorth busnes neu gymorth ariannol sy’n darparu’r enillion gorau ar fuddsoddiadau, a nodyn sy’n dangos sut y caiff yr enillion yn sgîl buddsoddiadau eu hasesu gan Adran yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth (er enghraifft drwy ddefnyddio panelau buddsoddi a Bwrdd Cynghorol Datblygu Diwydiannol Cymru );
- ddarparu dadansoddiad o faint o’r arbedion effeithlonrwydd o £1.6 miliwn, wrth ddarparu prosiect Cyflymu Cymru, a gyflawnwyd drwy dynnu ffioedd yngynghorwyr allanol allan;
- cynnwys dangosyddion trafnidiaeth y Rhaglen Lywodraethu o fewn y bwletin nesaf ar gynnydd bob chwe mis gan y Gweinidog, gyda sylwadau i grynhoi effaith y polisi.
6.3 Cytunodd y Gweinidog hefyd y byddai’r wybodaeth flynyddol ddiweddaraf am yr economi a thrafnidiaeth yn dangos yn glir, ar lefel gweithredu, y swyddi a’r buddsoddi a sicrhaodd y canlyniadau a gyflawnwyd yn 2013-14, ynghyd â’r gwariant sy’n gysylltiedig â chyflawni’r canlyniadau hynny. Yng ngoleuni’r ffaith bod y swyddi a gefnogir wedi’u cyflawni heb unrhyw wariant gan Lywodraeth Cymru, byddai’r Pwyllgor yn gwerthfawrogi pe bai modd dadansoddi’r canlyniadau o ran swyddi, i ddangos pa swyddi a grëwyd, pa swyddi a ddiogelwyd a pha swyddi a gefnogwyd, ar wahân.
7 Papurau i’w nodi
5.1 Nododd y Pwyllgor y dogfennau ategol canlynol:
EBC(4)-05-14(p.9) –Llythyr gan y Cadeirydd at y Gweinidog ynghylch WOMEX, dyddiedig 17 Ionawr 2014
EBC(4)-05-14(p.10) – Ymateb y Gweinidog ynghylch WOMEX, dyddiedig 27 Ionawr 2014
EBC(4)-05-14(p.11) - TEN-T - Llythyr gan y Cadeirydd at y Gweinidog, dyddiedig 24 Ionawr 2014
EBC(4)-05-14(p.12) - - TEN-T - Ymateb y Gweinidog, dyddiedig 5 Chwefror 2014
EBC(4)-05-14(p.13) – TEN-T – Llythyr gan Herald Ruijters, dyddiedig 06.02.14
EBC(4)-05-14(p.14) – Hanes y berthynas rhwng Masnach a Buddsoddi y DU a Llywodraeth Cymru yn ddiweddar
Cofnodion y cyfarfod blaenorol